Coleg Newnham, Prifysgol Caergrawnt | |
Sefydlwyd | 1871 |
Enwyd ar ôl | Newnham, Swydd Gaergrawnt |
Lleoliad | Sidgwick Avenue, Caergrawnt |
Chwaer-Goleg | Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen |
Prifathro | Alison Rose |
Is‑raddedigion | 398 |
Graddedigion | 148 |
Gwefan | www.newn.cam.ac.uk |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Newnham (Saesneg: Newnham College).
Ffurfwyd y coleg yn 1871 gan grŵp yn trefnu Darlithoedd i Ferched (Saesneg: Lectures for Ladies), gydag aelodau yn cynnwys yr athronydd Henry Sidgwick a'r ymgyrchydd swffragistaidd Millicent Garrett Fawcett. Daeth Coleg Newnham yr ail coleg ar gyfer merched i gael ei ffurfio yng Nghaergrawnt, gan ddilyn Coleg Girton. Dathlwyd pen-blwydd y coleg yn 150 drwodd 2021 a 2022.